Manylion Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth
Darllenwch y nodiadau canlynol yn ofalus cyn cwblhau os gwelwch yn dda
- Mae grant marwolaeth yn daladwy yn syth ar eich marwolaeth:
-
- pan ydych yn aelod cyfredol o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL); neu
- os oes gennych fuddion gohiriedig yn y Cronfa Bensiwn Powys; neu
- os ydych yn marw o fewn 10 mlynedd i dderbyn y pensiwn oddi wrth Cronfa Bensiwn Powys ac eich bod o dan 75 mlwydd oed ar ddyddiad eich marwolaeth.
- Y lefel o grant marwolaeth sydd yn daladwy yw:
- 3 x cyflog pensiynadwy blynyddol mewn perthynas ag aelod cyfredol o’r CPLlL;
- 5 x pensiwn cronedig plws cynyddiad ody nau cronnol mewn perthynas ag aelod gohiriedig ;
- 10 x pensiwn blynyddol llai unrhyw daliadau sydd eisoes wedi eu gwneud mewn perthynas ag aelod sy'n bensiynwr o dan 75 mlwydd oed.
Fodd bynnag, nodwch os gwelwch yn dda, os gadawsoch y CPLlL ar 31 Mawrth 2008 neu cyn hynny, mae eich grant marwolaeth yn gyfwerth â 3 gwaith eich pensiwn ynghyd â’r cynyddiad ody nau cronnol, yn hytrach na 5 gwaith y pensiwn o dan y Gynllun 2008. Yn ogystal, os dechreuwyd talu eich budd-daliadau ymddeol ar 31 Mawrth 2008 neu cyn hynny, mae’r grant marwolaeth sy’n daladwy yn gyfwerth â 5 gwaith eich pensiwn blynyddol llai unrhyw daliadau a ody eisoes, yn hytrach na 10 gwaith y pensiwn o dan y Gynllun 2008.
- Fel aelod cyfredol, os ydych yn gweithio yn rhan amser, fe gyfrifir eich grant marwolaeth yn unol â’ch gwir gyflog pensiynadwy yn hytrach na’ch cywerth llawn amser amcanol.
- Os ydych yn aelod gweithredol o'r CPLlL gyda chyfnod o aelodaeth ohiriedig CPLlL cynharach, bydd y grant marwolaeth sy'n daladwy yn y mwyaf o naill ai'r grant marwolaeth mewn perthynas â'ch cyfnod gweithredol o aelodaeth, neu’r grant marwolaeth mewn perthynas â'ch budd-dal gohiriedig, pa un bynnag yw'r mwyaf.
- Gallwch fynegi dymuniad i gynnig un neu ragor o unigolion, neu sefydliad, i dderbyn y grant marwolaeth sy’n daladwy ar achlysur eich marwolaeth. Yng nghyswllt absenoldeb Ffurflen Mynegi Dymuniad , bydd y taliad yn cael ei wneud i’ch cynrychiolwr personol h.y. eich ystâd.
- Os byddwch yn dymuno enwebu ‘Plentyn Dan Oed’, sylwer y bydd unrhyw daliad mewn perthynas â’r enwebai hwn yn cael ei wneud i gronfa ymddiriedolaeth.
- Y fantais o fynegi Dymuniad yw y bydd y grant marwolaeth yn cael ei dalu yn gyflym, heb orfod disgwyl sawl wythnos o bosib i’ch Ystâd gael ei Mantais arall yw na fydd eich taliad yn cael ei gyfrif fel rhan o’ch Ystâd, gan osgoi unrhyw gyfrifoldeb Treth Etifeddiaeth.
- Fe’ch cynghorir i gadw copi o’ch ffurflen Mynegi Dymuniad, ynghyd â’r nodiadau hyn a’u cadw yn ofalus ar gyfer eich cofnodion. Tra ody n rhaid i’r Awdurdod Gweinyddol o dan Gyfraith Pensiwn, gadw’r hawl i ddiystyru unrhyw fynegiant o ddymuniad, pwrpas y ffurflen hon yw eich cynorthwyo i wneud cynlluniau ariannol priodol rhag ofn marwolaeth gynnar.
- Gallwch ddiwygio eich mynegiant dymuniad (au) ar unrhyw adeg trwy gwblhau ffurflen arall, fydd yn diddymu unrhyw fynegiant dymuniad blaenorol. Os ydych yn dymuno diwygio unrhyw fynegiant dymuniad blaenorol cysylltwch â’r Gronfa Bensiwn yn y cyfeiriad isod os gwelwch yn dda.
- Ar gyfer taliad Grant Marwolaeth yn UNIG y bwriedir y ffurflen hon ac nid oes iddi unrhyw berthnasedd i daliad pensiwn y sawl sy’n eich goroesi ar achlysur eich marwolaeth.
- Nodwch os gwelwch yn dda NAD yw Cronfa Bensiwn Powys wedi rhwymo yn gyfreithiol i’r ffurflen hon, oherwydd er mwyn i’r manteision treth fod yn berthnasol, mae’n rhaid i’r gronfa gadw disgresiwn llawn yng nghyswllt dyraniad eich taliad grant marwolaeth.
- Os oes mwy nag un buddiolwr sicrhewch fod y cyfansymiau canradd yn 100% os gwelwch yn dda.
- Ni allwch ddatgan pwy fyddai’n olynydd pe bai eich buddiolwr enwebedig yn marw o’ch blaen. Yn yr achos yma dylech gwblhau ffurflen Mynegi Dymuniad Grant Marwolaeth newydd.
- Os oes angen rhagor o le ar gyfer mwy na thri buddiolwr, rhowch eu manylion ar daflen ar wahân.
- Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu os ydych angen rhagor o fanylion cysylltwch os gwelwch yn dda gyda:
Adain Bensiynau Rhif Ffon: 01597 826463 E-bost: pensions@powys.gov.uk